Cyrsiau cadw gwenyn

£60 y pen neu ragor
Edrychwch ar yr amrywiaeth o gyrsiau rydym ni’n eu cynnig

Angen gwirfoddolwyr!

Helpwch ni i helpu’r gwenyn

Ein gwirfoddolwyr sy’n ein cynnal, ac mewn gwirionedd, ni allem barhau hebddynt. Gyda’r poblogaethau'r gwenyn yn dirywio yng Nghymru, mae’r creadur bach anhygoel hwn wedi’i ddosbarthu i fod yn un o’r pryfed peillio sydd mewn perygl dwys, ac mae o dan fygythiad yn y D.U. ac o gwmpas y byd. Mae ein gwirfoddolwyr yn hollbwysig er mwyn cyfathrebu ein neges y gallwn ni i gyd ran i'w chwarae wrth ddiogelu eu dyfodol.

Mae cadw gwenyn yn weithgaredd tymhorol iawn, ac mae ein cyfleoedd gwirfoddoli hefyd yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn. Nid oes rhaid i chi wybod yn benodol am wenyn neu gadw gwenyn, a buasai’n dda gennym glywed gennych, waeth faint o brofiad sydd gennych. Fe gewch yr holl wybodaeth a’r hyfforddiant y bydd ei angen arnoch gennym. Mae’n wirfoddolwyr yn cael effaith cadarnhaol ac ystyrlon ar y sefydliad, ac i’r gwrthwyneb. Drwy wirfoddoli gyda ni, rydym yn medru cynnig cyfleoedd megis:

  • dysgu sgiliau newydd
  • bod y n ran o gymuned cadw gwenyn
  • cymhelliant a theimlad o gyflawniad
  • datblygu diddordebau newydd, difyrweithiau , a phrofiadau
  • cyfarfod amrediad amrywiol o bobl
  • rhoi hwb i opsiynau gyrfa.

Fe gewch lawer o fanteision eraill gennym hefyd, a gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy gysylltu â:

info@beeswales.co.uk 01492 651106


Helpwch ni i helpu’r gwenyn.
.

Gwirfoddoli Gwirfoddoli Gwirfoddoli Gwirfoddoli