£60 y pen neu ragor
Edrychwch ar yr amrywiaeth o gyrsiau rydym ni’n eu cynnig
Bee Boles and Bee Houses Awdur: A.M. Foster Cyhoeddwr:
Shire Publications Ltd ISBN: 9780852639030
Collins Beekeeper’s Bible
ISBN 978-0-00-727989-0
Mae gwenyn yn peillio oddeutu un rhan o dair o bopeth rydym ni’n ei fwyta, ac maent yn gwneud cyfraniad hanfodol at gynnal ein hecosystemau. Mae angen i fwy na ¾ y cnydau a dyfir i’w bwyta gan bobl gael eu peillio gan wenyn, ac mae gwenyn yn cyfrif am 80% o’r holl blanhigion a gaiff eu peillio gan bryfed. Maent yn cynnwys y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau, llawer o gnau, a phlanhigion megis rêp a gaiff eu troi yn olew, a ffa coco, coffi a the. Yn ogystal â chnydau bwyd, mae cnydau porthi ar gyfer da byw a chnydau megis cotwm yn dibynnu ar beillio gan wenyn hefyd. O safbwynt economaidd, gallai peillio gan wenyn fod yn werth £200 miliwn yn y Deyrnas Unedig yn unig, a $170 biliwn yn fyd-eang.
Ond ni ellir mesur gwerth ariannol cyfraniad gwenyn at ecosystemau ledled y byd, na’n perthynas â hwy sy’n mynd yn ôl filoedd o flynyddoedd.
Mae gwenyn a phryfed peillio eraill yn wynebu cyfres o fygythiadau naturiol a rhai a grëwyd gan bobl. Heb waith gwenynwyr masnachol, a rhai sy’n amaturiaid yn benodol, gallai’r bygythiadau hyn beryglu eu goroesiad. Gall pawb – a chithau yn eu pltih – gyfrannu at helpu gwenyn i ffynnu.
Caiff yr haid ei greu a’i gynnal trwy gyfrwng strwythur cymdeithasol cadarn. Dim ond un ffactor diddorol ymhlith nifer yw hierachiaeth y gwenyn.
Dros y ganrif ddiwethaf, bu gostyngiad o hyd at 97 y cant yn ein dolydd blodau gwyllt. Mae’r gallw am fwyd, datblygiadau technolegol ym myd amaeth a’r defnydd o blaladdwyr oll wedi cyfrannu at greu ‘anialdiroedd gwyrdd’ – ac mae’r effaith ar ein pryfed peillio wedi bod yn drychinebus.
Bellach, maent yn cael eu gwthio i’r eithafon yn llythrennol, ac maent yn dibynnu ar gloddiau, coed a blodau mewn gerddi i gael i neithdar a‘r paill y mae eu hangen arnynt.
Ond nid newydd drwg yw’r cyfan, a gallwn oll wneud newidiadau bychan a wnaiff helpu ein gwenyn gwarchaeëdig.
Mae 54% o drefi a dinasoedd Gwledydd Prydain yn fannau gwyrdd - parciau, rhandiroedd, meysydd chwaraeon ac ati. Mae gerddi tai yn cyfrif am 18% o’r cyfanswm, ac mae coetiroedd yn gorchuddio 12% o’r DU. Mewn gwirionedd, dim ond 2% o Wledydd Prydain sy’n cael ei ystyried yn ‘drefol’, felly mae digon o le am blanhigion, ond mae’n rhaid inni sicrhau fod rhagor o’r planhigion iawn.
Trwy blannu planhigion sy’n denu gwenyn yn eich hardd, gallwch wneud gwahaniaeth ymarferol go iawn, a thrwy gynllunio ychydig, gallwch gynnig gwerddon i bryfed peillio trwy gydol y flwyddyn.
Nid oes angen i chi fod yn wenynwr i helpu’r gwenyn. Yn syml, plannwch fathau penodol o blanhigion a llwyni yn eich gardd er mwyn helpu’r gwenyn wrth iddynt gasglu paill a neithdar sy’n hanfodol iddynt fedru goroesi. Hyd yn oed mewn tref brysur gall eich gardd fod yn nefoedd i’r gwenyn prysur!
Mae planhigion gwenyn-gyfeillgar yn edrych yn wych yn eich gardd hefyd! Wrth blannu’r math cywir o goed a phlanhigion rydych yn creu twmpath o fwyd ar gyfer gwenyn mêl a pheillwyr eraill, a chynefinoedd i fywyd gwyllt. Mae peillio yn rhoi bwyd i ni a bywyd gwyllt eraill, o adar i bryfetach.
Mae Cymdeithas Gwenynwyr Prydain (BBKA) wedi cynhyrchu rhestr sylweddol o blanhigion gwenyn-gyfeillgar y gellwch eu tyfu yn eich gardd neu alotiad. Cliciwch yma i lawrlwytho’r rhestr.
Dengys ymchwil bod gwenyn yn cael eu denu’n well i erddi sydd gydag amrywiaeth mwy eang o flodau gwenyn-gyfeillgar. Yn ogystal, mae pethau sylfaenol fel golau cywir a gosodiad eich gardd yn medru cael effaith mawr ar y nifer a’r mathau o wenyn sy’n cael eu denu. Defnyddiwch amrywiaeth o blanhigion yn eich gardd a pheidiwch â bod yn rhy daclus. Gadewch y planhigion sy’n blodeuo’n wyllt yn eu lle ac mae eiddew yn ffynhonnell bwysig o fwyd i’r gwenyn tuag at ddiwedd y gaeaf.
Cofiwch, dim ond ni sy’n trin chwyn fel chwyn! Mae gwenyn yn hoff iawn o ddant y llew a million gwyn. Gadewch lonydd i’r chwyn am gyfnod hirach na’r arfer. Cewch wared ohonynt wedi i’r blodau farw arnynt a chyn iddynt hadu.
Mae rhai rhywogaethau o wenyn yn nythu yn y ddaear. Gall tomwellt a gorchuddion atal chwyn olygu na all y gwenyn nythu. Unwaith eto, defnyddiwch orchudd naturiol ar gyfer eich gardd a byddwch yn fwy amyneddgar gyda’r chwyn!
Cofiwch mai dim ond gwenyn mêl benywaidd sy’n pigo a tydi’r gwenyn mêl Ewropeaidd a welwn yn y DU ddim yn un blin. Ceisiwch ddenu gwenyn i’ch gardd a pharhau i fwynhau eich barbeciw!
“Beth yw manteision gwenyn i ni?”
Peillio
Mae amaethyddiaeth yn dibynnu’n fawr iawn ar y gwenyn mêl i beillo. Gwenyn mêl sy’n gyfrifol am 80% o’r holl beillio a wneir gan bryfetach, gan gasglu tua 30 kilogram / 66 pwys o baill, fesul haid, bob blwyddyn. Heb y peillio hwn, buasai cyfanswm cynnyrch ein ffrwythau a’n llysiau yn llawer iawn llai.
Mêl
Mae sawl math, ac mae eu lliw a'u blas yn amrywio. Mae gwenyn yn cynhyrchu’r mêl o’r neithdar a gesglir ganddynt o flodau’r coed a phlanhigion, ac fe’i defnyddir ganddynt fel bwyd drwy gydol y flwyddyn. Mae gan fêl fendithion gwrthfacterol; gall bwyta mêl atal alergeddau.
Cŵyr Gwenyn
Wedi'i gynhyrchu o’r chwarennau, defnyddir cŵyr gwenyn yn cael ei ddefnyddio gan y gwenyn mêl i adeiladu’r diliau mêl. Defnyddir cŵyr gwenyn mewn cyffuriau, colur, deunyddiau artistiaid, llathrydd dodrefn ac esgidiau a chanhwyllau mewn eglwysi.
Propolis
Cesglir hwn gan y gwenyn mêl o goed, ac mae'n resin gludiog a gymysgir â chŵyr i wneud glud. Bydd y gwenyn yn defnyddio’r glud i drwsio holltau yn y cwch gwenyn. Defnyddir propolis yn y diwydiant iechyd a hefyd mewn farnis pren.
Jeli Brenhinol
Mae’r deunydd llaethog pwerus hwn yn troi gwenynen gyffredin yn famwenynen ac fe'i gweneir o baill wedi ei dreulio drwy’r corff ac a ddaw allan o chwarren o ben gwenynen. Mae’r jeli yn llawn fitamin B ac fe'i defnyddir fel atchwanegiad deietegol i hybu ffrwythlondeb. Mae’n eithriadol o ddrud (fel cafiâr!)
Medd
Medd yw’r ddiod hynaf y gwyddom amdani ac roedd yn boblogaidd iawn hyd at y 18fed ganrif. Math o win ydyw, yn felys gan amlaf, wedi ei wneud o fêl, dŵr a burum ac mae'n cynnwys tua 12-14% o alcohol.
Mae twf datblygiad trefol wedi cael effaith sylweddol ar niferoedd y gwenyn, gan leihau’r ardaloedd y gallent gasglu paill a neithdar. Gallwch helpu yn y frwydr o ddenu’r gwenyn y ôl i’r trefi a’r dinasoedd.
Nid oes angen i chi fod yn berchen tir neu fyw yn y wlad i gadw gwenyn. Mae gerddi trefol a thoeau yn lleoedd delfrydol ar gyfer haid – mae gan y Waldorf Astoria yn Efrog Newydd nifer o gychod gwenyn ar y to.
Neu rhentwch gwch gwenyn trwy eich cymdeithas gwenynwyr leol, yn union fel rhentu rhandir.
Os nad ydych yn dymuno cadw gwenyn, gellwch eu helpu trwy blannu gerddi gwenyn-gyfeillgar.
Mae gerddi trefol, gerddi ar doeau, rhandiroedd, parciau lleol a mannau agored oll yn denu gwenyn.
Yn ogystal ag ychwanegu lliw at ein strydoedd a’n cartrefi, mae basgedi crog hefyd yn denu pryfed peillio. Mae nifer o awdurdodau lleol bellach yn creu tirluniau gwenyn-gyfeillgar mewn parciau a strydoedd.
Rhowch gynnig ar un o'n Cyrsiau Cadw Gwenyn.